Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015
Amser: 09.33 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3289
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Bethan Jenkins AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Carol Mooney, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 166KB) Gweld fel HTML (132KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i goffáu 15 Mai ac a fyddai'n ystyried gwneud mwy i nodi'r diwrnod.
· Ysgrifennu at y Llywydd, sy'n Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn a oes gan y Cynulliad unrhyw ddigwyddiadau sy'n coffáu 15 Mai ac a fyddai'n bosibl ystyried gwneud rhagor i nodi'r diwrnod.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi ei fod ar y cyfan yn fodlon ag ymateb y Prif Weinidog, fe gytunodd i gau'r ddeiseb.
Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad â Chanolfan Dyfi.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried fod y mater wedi cael ystyriaeth benodol yn ystod trafodaethau'r Cynulliad ynghylch Bil Cynllunio (Cymru). Felly, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor wneud i ddatblygu'r mater.
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddo:
· nodi diddordeb y Pwyllgor yn y mater hwn;
· roi rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adrodd i'r Cynulliad; ac
· ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda mwy o wybodaeth pan fydd yn adrodd i'r Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau interim y deisebydd; ac
· yn ôl y gofyn, caniatáu mwy o amser i'r deisebydd ymgynghori ag aelodau o'r Grŵp Gweithredu ac ystyried unrhyw sylwadau atodol yn nes ymlaen.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, ac wrth wneud hynny i gynghori'r deisebydd y dylai godi'r materion eraill yn ei llythyr diweddaraf gyda'r awdurdod lleol.
Cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu rhagor o amser i'r deisebwyr roi sylwadau ar ohebiaeth y Dirprwy Weinidog.
Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau diweddaraf y deisebwyr ac am ddiweddariad pellach ar y cynnydd, gan gynnwys trafodaethau diweddaraf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Ar ôl trafod y deisebau newydd a chyfredol, cytunodd y Pwyllgor i gael egwyl rhwng 10.07 a 10.25, cyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.